Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/03/2023 i'w hateb ar 07/03/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd i bobl Cwm Cynon?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran ymgorffori gofal iechyd darbodus ym mhob agwedd ar iechyd a llesiant yng Nghanol Caerdydd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â pha mor gystadleuol yw porthladdoedd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â strategaeth economaidd Blaenau'r Cymoedd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau'r ansawdd uchaf posibl o addysg yn ysgolion Gorllewin De Cymru?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o bwysigrwydd cysylltedd ffyrdd i'r economi yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am effaith rheoliadau ffosffad ar Ddwyfor Meirionnydd?
Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau tlodi plant yng Nghanol De Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau cyhoeddus eraill ynglŷn ag amodau tai gwael yng Nghaerdydd ar gyfer myfyrwyr o Affrica?
Pa asesiad diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiau ymadael â'r UE ar drigolion a busnesau yn Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer meithrin cyfoeth cymunedol?
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi athrawon gyda'r argyfwng costau byw yn Nwyrain De Cymru?