Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/02/2018 i'w hateb ar 07/03/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OAQ51856 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gategoreiddio ysgolion yn Sir Fynwy?

 
2
OAQ51846 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu myfyrwyr o dramor i brifysgolion Cymru?

 
3
OAQ51835 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu system addysg sy'n adlewyrchu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

 
4
OAQ51839 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant gwella addysg i ysgolion?

 
5
OAQ51858 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg gwleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion yng Nghymru?

 
6
OAQ51843 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu ysgolion ym Mro Morgannwg?

 
7
OAQ51857 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg gynradd?

 
8
OAQ51867 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â darparu llaeth am ddim mewn ysgolion?

 
9
OAQ51838 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Pa gefnogaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei darparu i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol sydd eisiau astudio bagloriaeth Cymru?

 
10
OAQ51865 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael am y gweithredu diwydiannol presennol yn y sector prifysgolion yng Nghymru?

 
11
OAQ51872 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau cyngor gyrfaoedd?

 
12
OAQ51854 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella deilliannau addysgol ar gyfer plant Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru?

 
13
OAQ51832 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi lles plant mewn ysgolion yng Nghymru?

 
14
OAQ51866 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am werth addysg perthnasoedd iach yn ysgolion Cymru?

 
15
OAQ51842 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd technoleg a sgiliau digidol yn y cwricwlwm?

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ51860 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sylwadau Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar fasnachfraint rheilffyrdd bresennol Great Western?

 
2
OAQ51861 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru?

 
3
OAQ51850 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith datblygu ar yr A55 yng ngogledd Cymru?

 
4
OAQ51834 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economi Sir Benfro?

 
5
OAQ51849 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau bysiau ledled Cymru?

 
6
OAQ51863 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu'r depo gwasanaethu arfaethedig i Fetro De Cymru yn Ffynnon Taf?

 
7
OAQ51833 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r seilwaith trafnidiaeth yn Sir Benfro?

 
8
OAQ51840 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

Sut y bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â Dwyrain De Cymru yn ystod y pumed Cynulliad?

 
9
OAQ51855 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a fydd y ddadl a'r bleidlais ar ffordd liniaru'r M4 a gyhoeddwyd mewn llythyr at Aelodau'r Cynulliad yn gyfrwymol neu'n gynghorol?

 
10
OAQ51830 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer dinas ranbarth bae Abertawe?

 
11
OAQ51853 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau i wella twristiaeth yn ne-orllewin Cymru?

 
12
OAQ51868 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon?

 
13
OAQ51847 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu economaidd yn rhanbarth Gogledd Cymru?

 
14
OAQ51841 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwell gwasanaethau wi-fi ar drafnidiaeth yng Nghymru?

 
15
OAQ51859 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu gwybodaeth bellach am y goblygiadau i fasnachfraint Cymru a'r Gororau o Abellio Rail Cymru yn tynnu ei gais yn ôl o'r broses gaffael?