Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/01/2024 i'w hateb ar 07/02/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl ddi-waith i ddechrau eu busnes eu hunain?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi bwytai yng Nghymru ar ôl i nifer ohonynt gau ers dechrau'r flwyddyn newydd?
Pa waith ymgysylltu y mae'r Gweinidog wedi'i wneud gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar adfywio lleoliadau diwylliannol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi yn ne-ddwyrain Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu mwy o swyddi â chyflogau uwch yn y canolbarth?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am werth economaidd y diwydiant paneli pren i Gymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan weithlu Cymru y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y farchnad swyddi yn y dyfodol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfleoedd economaidd i bobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad sydd wedi ei wneud gan y Gweinidog o effaith economaidd a chymdeithasol y diswyddiadau posib yn Tata Steel ym Mhort Talbot?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng nghanol trefi?
Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi ei wneud o’r nifer o fusnesau sydd yn debyg o fethu o ganlyniad i’r Llywodraeth yn gostwng lefel lliniaru ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd band eang yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau gwerth am arian wrth gaffael cynhyrchion i'w defnyddio yn y GIG?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau iechyd meddwl cymunedol yng Ngogledd Cymru?
Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gadw meddygon yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod triniaeth iechyd effeithiol ar gael i bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i greu cenhedlaeth ddi-fwg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gontractau meddygon teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol?
Pa ystyriaeth mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyflwyno gwasanaethau IVF am ddim ar y GIG ledled Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd ddeddfwriaeth yr UE i wahardd amalgam deintyddol o 1 Ionawr 2025 yn ei chael ar ddeintyddiaeth yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ddarpariaeth gwasanaethau brys yn y canolbarth?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl ag anghenion iechyd heb eu diwallu?
Pa gefnogaeth fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r sector gofal plant i sicrhau eu bod yn gallu codi cyflogau staff yn unol a’r isafswm cyflog newydd o fis Ebrill ymlaen?