Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/01/2025 i'w hateb ar 07/01/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl ag alergeddau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhesymau dros y cynnydd yn nifer y cleifion sy'n defnyddio gofal iechyd preifat yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mynediad amserol i wasanaethau iechyd i drigolion Gogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn Nwyrain Casnewydd?
Pa gymorth sy'n gysylltiedig â thai y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i berchnogion tai?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau iechyd i drigolion Canol De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn y Rhondda?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr uwchgynhadledd fuddsoddi arfaethedig a fydd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach eleni?
Pa gynnydd y mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru wedi'i wneud wrth weithredu gwasanaeth brys pwrpasol ar y ffyrdd ar gyfer ardaloedd gwledig ac arfordirol anghysbell yng nghanolbarth a gogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am filiau dŵr yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi camau nesaf y Llywodraeth yn dilyn cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynyddu capasiti'r grid cenedlaethol yng Nghymru?