Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/11/2023 i'w hateb ar 06/12/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

1
OQ60369 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa ystyriaeth roddodd y Gweinidog i'r angen i ariannu gwasanaethau hamdden wrth benderfynu ar gyllidebau awdurdodau lleol Dwyrain De Cymru?

 
2
OQ60383 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i helpu trigolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i reoli pwysau costau byw?

 
3
OQ60370 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r amserlen ar gyfer cwblhau gwaith ailbrisio eiddo at ddibenion y dreth gyngor?

 
4
OQ60355 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd Llywodraeth Cymru o'r model buddsoddi cydfuddiannol?

 
5
OQ60358 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran datganoli pwerau mewn perthynas â threth tir gwag?

 
6
OQ60377 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyllid i amddiffyn cymunedau yn Alun a Glannau Dyfrdwy rhag llifogydd?

 
7
OQ60376 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi llywodraeth leol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus?

 
8
OQ60353 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru mewn perthynas â'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)?

 
9
OQ60392 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda llywodraeth leol i hyrwyddo arfer da ar draws awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau?

 
10
OQ60361 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa effaith y mae datganiad yr hydref Llywodraeth y DU wedi'i chael ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu llywodraeth leol?

 
11
OQ60367 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i effaith digwyddiadau tywydd eithafol wrth ddyrannu arian i awdurdodau lleol?

 
12
OQ60381 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynorthwyo byrddau'r GIG i leihau eu diffygion?

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

1
OQ60378 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Sut fydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cefnogi cynefinoedd yng Nghymru?

 
2
OQ60366 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
3
OQ60394 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i benderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ddiweddaru Deddf Cŵn Peryglus 1991?

 
4
OQ60363 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

A wnaiff y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei hymdrechion i annog perchogion cŵn i fod yn gyfrifol?

 
5
OQ60359 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa ystyriaeth mae Pwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru wedi ei rhoi i wella ffyrdd yn Nwyfor Meirionnydd?

 
6
OQ60385 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynnydd y prosiect Gwaredu Scab yng Nghymru?

 
7
OQ60379 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr i droi gwastraff anifeiliaid yn wrtaith?

 
8
OQ60384 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wahardd rasio milgwn yng Nghymru?

 
9
OQ60368 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i gyflawni'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru?

 
10
OQ60380 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru o'i gymharu â chyllid blaenorol yr UE?

 
11
OQ60364 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr i leihau llygredd amaethyddol mewn dyfrffyrdd?

 
12
OQ60360 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant amaethyddol yn Sir Benfro dros y deuddeg mis nesaf?