Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/12/2022 i'w hateb ar 06/12/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba gymorth sydd ar gael i fusnesau yn sgil cau pont y Borth?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith polisïau mewnfudo'r DU ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn genedl noddfa?
Beth yw asesiad y Prif Weinidog o flwyddyn gyntaf y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd cynyddol o ofal iechyd preifat gan gleifion sy'n aros am driniaeth ar y GIG?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o dai cymdeithasol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau llwyddiant ei hymdrechion ymgysylltu yng Nghwpan y Byd yn Qatar?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gan gymunedau ledled Cymru wasanaethau bancio hygyrch?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar echdynnu glo yng Nghymru?
Pa effaith ariannol y mae'r argyfwng costau byw wedi'i chael ar bobl oedrannus?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith anghydfod y Post Brenhinol ar ei weithwyr a'i wasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr?