Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/10/2024 i'w hateb ar 06/11/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector rhentu preifat?
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch gweithredu rheolaethau rhent?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i sefydliadau sy'n trosi eiddo masnachol gwag yn dai preswyl?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am weithredu'r cynllun Arbed yng Nghaerau?
A yw Llywodraeth Cymru yn monitro sut y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dai cydweithredol yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn effeithiol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol yn effeithiol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y rhaglen Cartrefi Clyd?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu'r nifer sy'n dewis dilyn pynciau STEM mewn addysg bellach ac uwch?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am ymateb y Llywodraeth yn sgil euog-farn Neil Foden?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio a chadw athrawon yng Ngorllewin De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau addysgol i bobl ifanc yn Nwyrain De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog rhagor o ferched i astudio pynciau STEM?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y defnydd o e-sgol yn Nwyrain De Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ysgolion o ran plant bach sy'n mynychu'r ysgol mewn cewynnau?
Pa gamau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella mynediad cyhoeddus i gyfleusterau chwaraeon ysgolion y tu allan i oriau ysgol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am addysgu ieithoedd tramor modern?
Pa ganllawiau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu darparu i ysgolion ynghylch defnyddio ffonau clyfar yn ystod gwersi?
Beth yw asesiad presennol Llywodraeth Cymru o addasrwydd polisïau gwisgoedd ysgol ar draws Cymru?
Pa rôl sydd gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil o ran codi statws prentisiaethau lefel uchel i sicrhau cydraddoldeb â chymwysterau gradd?