Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/10/2026 i'w hateb ar 06/10/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ei chynnig gofal plant yn hyblyg ac yn diwallu anghenion rhieni?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith chwaraeon proffesiynol ar economi Cymru?
Pa gynnydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ran gwella mynediad amserol at ofal y GIG?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yn nhymor y Senedd hon?
Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi capasiti presgripsiynu cymdeithasol yn Afan Ogwr Rhondda?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud ynghylch a yw'r fframwaith teithio presennol i ddysgwyr yn darparu mynediad teg at addysg ledled Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi goroeswyr camdriniaeth yn ystod plentyndod sy'n profi trawma pellach wrth geisio cael mynediad at gofnodion gwaith cymdeithasol, iechyd neu'r heddlu hanesyddol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu lefelau caffael lleol?
A fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwiliad llawn yng Nghymru ar gangiau grŵmio?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru?
Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar y Comisiwn Cenedlaethol arfaethedig i Gymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith perthynas Llywodraeth Cymru ag undebau llafur ar effeithiolrwydd y llywodraeth?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r modd y gall ystadegau gefnogi o ran gwneud penderfyniadau mwy effeithiol gan y llywodraeth a'r sector cyhoeddus ledled Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidog y Cabinet dros Gyllid ynglŷn â chyflawni blaenoriaeth y Llywodraeth o weithio i wella lefelau caffael lleol?
Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gwella'r ffordd y mae polisïau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r angen am Ddeddf Cymru newydd i sicrhau pwerau sy'n gyfartal â'r Alban?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatganoli gwneud penderfyniadau o fewn Cymru?
Sut mae’r Llywodraeth yn mynd ati i sicrhau cydweithio traws-portffolio i gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu?
Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod y Llywodraeth yn gallu cyflawni ei blaenoriaethau i bobl Cymru?
A wnaiff y Gweinidog Cabinet amlinellu sut mae'n bwriadu mesur llwyddiant Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidog Plismona y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â datganoli plismona?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus?