Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/09/2021 i'w hateb ar 06/10/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd

1
OQ56949 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog trafnidiaeth fwy gwyrdd?

 
2
OQ56973 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd metro Gogledd Cymru?

 
3
OQ56955 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddynodi Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol?

 
4
OQ56945 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gysylltu mwy o eiddo yng ngogledd Cymru â band eang cyflym iawn?

 
5
OQ56960 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth gymunedol yng Nghwm Cynon?

 
6
OQ56962 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu rhoi i gwmnïau sy'n defnyddio tir Cymru at ddibenion gwrthbwyso carbon?

 
7
OQ56950 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) (Diwygio) 2021 ar gysondeb landlordiaid yn y sector rhentu preifat?

 
8
OQ56971 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau allyriadau fel rhan o Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang?

 
9
OQ56954 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pryd fydd cronfa diogelwch adeiladau Cymru ar gael ar gyfer ceisiadau?

 
10
OQ56957 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag allyriadau CO2 o geir?

 
11
OQ56958 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwallu'r angen cynyddol ar gyfer cynhyrchu ynni ledled Cymru?

 
12
OQ56972 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal llifogydd mewn cymunedau yn Nwyrain De Cymru?

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

1
OQ56975 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod disgyblion yn cael eu hamddiffyn rhag aflonyddu mewn ysgolion?

 
2
OQ56943 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch effaith ieithyddol ffermydd teulu Cymraeg yn cael eu gwerthu i gwmnïoedd er mwyn plannu coed ar gyfer rhaglenni gwrthbwyso carbon?

 
3
OQ56963 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cynorthyyddion dysgu mewn ysgolion?

 
4
OQ56968 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru'n galluogi dysgwyr i ddysgu mewn lleoliadau annhraddodiadol?

 
5
OQ56947 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch gweithio gydag ysgolion a cholegau i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cofrestru i bleidleisio?

 
6
OQ56953 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod pob prosiect adeiladu ysgolion newydd yn ddi-garbon?

 
7
OQ56966 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddal i fyny ym maes addysg ar ôl y pandemig?

 
8
OQ56951 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod safonau uchel mewn addysg yn cael eu cyflawni?

 
9
OQ56956 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pa asesiad sydd wedi ei wneud o effaith COVID-19 ar sgiliau iaith Gymraeg plant oed cynradd?

 
10
OQ56964 (e) Tynnwyd yn ôl Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau ysgolion cynradd yng Nghanol De Cymru?

 
11
OQ56976 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi disgyblion difreintiedig yn y flwyddyn academaidd hon?

 
12
OQ56942 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer addysg alwedigaethol ôl-16 yn etholaeth Ogwr?