Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/10/2020 i'w hateb ar 06/10/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i liniaru effaith pandemig COVID-19 ar bobl ifanc yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar dyfu diwydiant TGCh Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cosbau i'r rhai sy'n torri rheolau COVID-19?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau ym Mlaenau Gwent yn ystod pandemig y coronafeirws?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfyngiadau coronafeirws lleol fel y maent yn gymwys i Fwrdeistref Sirol Caerffili ar hyn o bryd?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynghylch cyfyngiadau symud lleol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gydag awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol eraill ynghylch atal ymweliadau â chartrefi gofal?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod Islwyn yn ailgodi’n gryfach yn dilyn pandemig COVID-19?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyngor COVID-19 a roddir i drigolion mewn tai amlfeddiannaeth?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i ganolfannau addysg awyr agored yn Arfon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at fannau addoli yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith cysylltiadau rhynglywodraethol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?