Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/06/2022 i'w hateb ar 06/07/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cyflog teg i weithwyr yn y trydydd sector?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Weinidogion ynghylch mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil mewn gweithleoedd yn y sector cyhoeddus?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch effaith cyfrifoldebau gwasanaeth iechyd ar eu llwyth gwaith?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid undebau llafur i ddiogelu buddiannau gweithwyr yn y sector cyhoeddus?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau tlodi tanwydd yn Ynys Môn?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o allu plant a phobl ifanc mewn sefydliadau gofal preswyl sy'n cael eu rhedeg yn annibynnol i gael mynediad at eiriolwr annibynnol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Bil Hawliau arfaethedig Llywodraeth y DU ar y fframwaith deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gerrig milltir cenedlaethol ar gyfer cyflawni nodau llesiant Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu hawliau pobl hŷn?
Pa waith y mae'r Gweinidog wedi'i wneud i sicrhau bod cymunedau yn Rhondda yn ddiogel?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn Islwyn i hyrwyddo ffyniant a mynd i'r afael â thlodi yn ystod yr argyfwng costau byw?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu hawliau'r gymuned fyddar?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau gweithredu diwydiannol gan fargyfreithwyr o ran mynediad at gyfiawnder yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth yr Alban ynghylch y goblygiadau i Gymru o'r penderfyniad i geisio dyfarniad Goruchaf Lys ar gyfreithlondeb cynnal refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban?
Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau cyfansoddiadol cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017?
Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau datganiad Llywodraeth yr Alban ei bod am gynnal refferendwm annibyniaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar ddeddfwriaeth Cymru a'r setliad datganoli?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith gronnol y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd a'r Bil Hawliau ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau cyfreithiol ymdrechion diweddar Llywodraeth y DU i ddiddymu deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd?
Pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael â Llywodraeth y DU ar ddatblygu'r Bil Hawliau?
Pa gymorth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i sector cyfreithiol Cymru yn dilyn newidiadau arfaethedig i arferion gwaith gan Lywodraeth y DU?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar y camau y gallai eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau gwledig?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder ynghylch parhau â'r cynllun Support Through Court yng Nghanolfan Cyfiawnder Caerdydd?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU ynghylch y goblygiadau i Gymru o'r newidiadau posibl i'r modd y cymhwysir protocol Gogledd Iwerddon?
Comisiwn y Senedd
Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i gynyddu cyfran yr ystafelloedd pwyllgora a chyfarfod a all ddarparu ar gyfer cyfarfodydd hybrid ar draws ystâd y Senedd?
Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael gyda'r Bwrdd Taliadau ynghylch newidiadau i gynllun pensiwn staff cymorth yr Aelodau?