Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/07/2021 i'w hateb ar 06/07/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ56736 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r prinder sgiliau yn y diwydiant cludo nwyddau?

 
2
OQ56753 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno gofal plant rhan-amser am ddim i blant o naw mis i'w pen-blwydd yn dair oed i bob rhiant waeth beth fo'u statws gwaith?

 
3
OQ56750 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynaliadwyedd y sector twristiaeth yng Ngogledd Cymru?

 
4
OQ56740 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r seilwaith trafnidiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
5
OQ56755 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad cleifion at ymgynghoriadau wyneb yn wyneb â chlinigwyr?

 
6
OQ56746 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses ar gyfer derbyniadau i ysgolion yng Ngorllewin De Cymru?

 
7
OQ56748 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd datganoli gweinyddu lles?

 
8
OQ56757 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau brechu COVID-19 yn Islwyn?

 
9
OQ56754 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ychwanegol i wasanaethau iechyd brys yn Arfon dros y misoedd nesaf?

 
10
OQ56728 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cyfleusterau iechyd yng nghanolbarth Cymru?

 
11
OQ56743 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi datblygu economaidd yng nghanolbarth Cymru?

 
12
OQ56756 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru?