Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/06/2023 i'w hateb ar 06/06/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ59592 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio lesddaliad a'i effaith ar berchnogion tai?

 
2
OQ59596 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y bydd Bil Ynni Llywodraeth y DU yn cefnogi trigolion Cymru?

 
3
OQ59587 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau i ofalwyr di-dâl?

 
4
OQ59600 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

A yw pob adran Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad o effaith yr argyfwng cludiant bysiau cyhoeddus presennol?

 
5
OQ59597 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Beth yw egwyddorion sylfaenol polisi bwyd Llywodraeth Cymru?

 
6
OQ59627 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau ym Mlaenau Gwent?

 
7
OQ59626 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer denu buddsoddiad busnes mawr i mewn i Gymru?

 
8
OQ59614 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
9
OQ59624 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Sut mae strategaethau iechyd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo datblygiad amgylcheddau sy'n galluogi iechyd da?

 
10
OQ59623 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o ba mor gyffredin yw defnyddio e-sigaréts ledled Cymru?

 
11
OQ59603 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ynni gwynt ar y môr arnofiol yn y Môr Celtaidd ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru?

 
12
OQ59625 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at ei nod o gael gwared ar elw o wasanaethau plant sy'n derbyn gofal?