Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/04/2025 i'w hateb ar 06/05/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro?
Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau diweddar o ran ystad dadfeiliedig Ysbyty Athrofaol Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyflwyno profion monitro iechyd blynyddol ar gyfer diffoddwyr tân?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl yr ardoll twristiaeth arfaethedig ar nifer yr ymwelwyr a'r economi dwristiaeth ehangach yng ngogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd corfforol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r argyfwng natur?
Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gyflymu’r broses o uwchraddio a gwella cartrefi?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i bobl sydd â cholled synhwyraidd?
Sut y mae contractau a ddyfernir o dan gynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu monitro i sicrhau tegwch i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sydd am gael diagnosis o awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol eraill?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Casnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau diweddar a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cymuned y lluoedd arfog?