Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/02/2019 i'w hateb ar 06/03/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

1
OAQ53510 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniadau cyllidebol i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?

 
2
OAQ53526 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa arian y mae'r Gweinidog wedi'i ddyrannu i'r portffolio tai a llywodraeth leol mewn perthynas ag adfywio'r stryd fawr yng Nghymru?

 
3
OAQ53523 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u caewl gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y pwysau cyllido mewn llywodraeth leol?

 
4
OAQ53482 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyllidebau awdurdodau lleol?

 
5
OAQ53515 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch yr angen am gyllideb frys rhag ofn y bydd Brexit heb gytundeb yn digwydd?

 
6
OAQ53488 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gofal cymdeithasol?

 
7
OAQ53494 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio ei phwerau trethu presennol i liniaru effaith y gosb tanfeddiannu yng Nghymru?

 
8
OAQ53518 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa adnoddau y mae'r Gweinidog wedi'u dyrannu i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu'r polisi Pwysau Iach: Cymru Iach?

 
9
OAQ53522 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru o ran cyllidebu aml-flwyddyn?

 
10
OAQ53483 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y gyllideb ar gyfer gweithredu'r mesurau a gynhwysir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

 
11
OAQ53480 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa arloesi-i-arbed?

 
12
OAQ53485 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arweiniad Llywodraeth Cymru i wahanol sectorau ar gaffael?

Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

1
OAQ53496 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch rôl ysgolion o ran cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

 
2
OAQ53484 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyflawniad Cynllun Gweithredu 2018-19 Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr?

 
3
OAQ53525 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud â gwledydd y tu allan i'r UE yn y cyfnod cyn ymadael â'r UE?

 
4
OAQ53512 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal mewn perthynas ag annog swyddfeydd is-genhadon i leoli yng Nghymru?

 
5
OAQ53519 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio denu buddsoddiad i Islwyn o Unol Daleithiau America?

 
6
OAQ53501 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am geisiadau yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr?

 
7
OAQ53477 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Gogledd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid?

 
8
OAQ53503 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gogledd-ddwyrain Cymru fel lleoliad ar gyfer busnes rhyngwladol?

 
9
OAQ53517 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno i Lys Hawliau Dynol Ewrop mewn perthynas â'r driniaeth o Abdullah Öcalan gan Lywodraeth Twrci?

 
10
OAQ53478 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu masnach ryngwladol?

 
11
OAQ53491 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa gynnydd sy'n cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfarfal?

 
12
OAQ53513 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru yn Ewrop?

 
13
OAQ53495 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i helpu busnesau Cymru i fasnachu â gwledydd nad ydynt yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd?

 
14
OAQ53520 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru?

 
15
OAQ53505 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa rai o'r argymhellion a nodir yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwiath a Sgiliau, Gwerthu Cymru i'r Byd, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu blaenoriaethu yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ53486 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

Pa asesiad mae’r Comisiwn wedi’i wneud o’r effaith ar ymgysylltiad democrataidd pan fo gwleidyddion yn newid pleidiau?

 
2
OAQ53489 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y camau nesaf ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru?

 
3
OAQ53507 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y polisi ynghylch hedfan baneri ar ystâd y Cynulliad ar ôl i'r DU ymadael yr Undeb Ewropeaidd?

 
4
OAQ53502 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2019

A oes gan y Comisiwn unrhyw gynlluniau i sefydlu coffâd parhaol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a fu farw yn y swydd?