Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/03/2018 i'w hateb ar 06/03/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ51831 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i hawlwyr grant byw'n annibynol Cymru yn dilyn dirwyn y grant i ben?

 
2
OAQ51871 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gostwng yr oed pleidleisio ar gyfer etholiadau yng Nghymru?

 
3
OAQ51877 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo masnach Cymru ag Unol Daleithiau America?

 
4
OAQ51837 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys ledled Cymru?

 
5
OAQ51829 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl prifysgolion yng Nghymru fel gyrwyr economaidd?

 
6
OAQ51870 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol?

 
7
OAQ51876 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau ar ystadau tai sydd heb eu mabwysiadu?

 
8
OAQ51874 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?

 
9
OAQ51873 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru?

 
10
OAQ51875 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella mynediad ar gyfer pobl anabl yng Nghymru?

 
11
OAQ51845 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y gyfraith sy'n atal gwarchodwyr plant rhag cael arian am ofalu am berthnasau?

 
12
OAQ51869 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella perfformiad economaidd yn y cymoedd gogleddol yn ystod tymor y Cynulliad hwn?

 
13
OAQ51844 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Nghasnewydd?

 
14
OAQ51848 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl yng Nghymru?

 
15
OAQ51852 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i bobl sydd wedi colli pensiynau o ganlyniad i gau cwmnïau?