Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/03/2018 i'w hateb ar 06/03/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i hawlwyr grant byw'n annibynol Cymru yn dilyn dirwyn y grant i ben?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gostwng yr oed pleidleisio ar gyfer etholiadau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo masnach Cymru ag Unol Daleithiau America?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys ledled Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl prifysgolion yng Nghymru fel gyrwyr economaidd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau ar ystadau tai sydd heb eu mabwysiadu?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella mynediad ar gyfer pobl anabl yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y gyfraith sy'n atal gwarchodwyr plant rhag cael arian am ofalu am berthnasau?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella perfformiad economaidd yn y cymoedd gogleddol yn ystod tymor y Cynulliad hwn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Nghasnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i bobl sydd wedi colli pensiynau o ganlyniad i gau cwmnïau?