Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/02/2018 i'w hateb ar 06/02/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yn Ynys Môn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd wedi cael ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r gronfa buddsoddi i arbed o fudd i Orllewin De Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chyrff sector cyhoeddus i wella y broses o ymdrin ag achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sgrinio serfigol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganiatâd cynllunio a newid defnydd o ran tafarndai yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad ariannol cynghorau tref a chymuned yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau cymorth llywodraeth leol i bobl hŷn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y diwydiant fferyllol yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu ar gyfer teuluoedd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sy'n Sipsiwn a Theithwyr mewn addysg?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch gwasanaethau i gynorthwyo adsefydlu carcharorion yng Nghymru?