Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/11/2023 i'w hateb ar 05/12/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar Fil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau Llywodraeth y DU?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gwasanaethau cymorth emosiynol sydd ar gael ar hyn o bryd i blant troseddwyr rhyw a gafwyd yn euog?
Sut mae'r Lywodraeth yn gwneud yn siŵr fod pob person yng Nghymru sydd yn derbyn diagnosis o awtistiaeth neu ADHD yn derbyn gwybodaeth safonol am ffynhonnellau cefnogaeth, effaith y ddiagnosis, a beth yw eu hawliau o safbwynt gwasanaethau a budd-daliadau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar bwysau costau byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau tlodi plant yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ac annog cyfranogiad mewn chwaraeon ar lawr gwlad?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael cymorth drwy'r llinell gymorth Byw Heb Ofn?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r ddarpariaeth o brentisiaethau?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â nifer yr adeiladau gwag yn Abertawe?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau meddygon teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector diwylliannol yng Nghymru?
Beth yw cynllun y Llywodraeth ar gyfer sicrhau diogelwch safleoedd gwenwynig ôl-ddiwydiannol yn Nwyrain De Cymru?