Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/11/2017 i'w hateb ar 05/12/2017
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau'r broses ar gyfer ymdrin â chwynion nad yw'r Prif Weinidog wedi cadw at god y gweinidogion?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio athrawon yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ford gron Llywodraeth Cymru ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw o fewn Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod y cyfanwerthwr Palmer a Harvey wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith credyd cynhwysol yn Nhorfaen?
A yw'r Prif Weinidog wedi ceisio cyngor cyfreithiol ar y cyfamod sy'n bodoli ar y tir ym mharc diwydiannol Baglan y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dymuno adeiladu carchar newydd arno?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau ar gyfer cleifion demensia yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau ar gyfer datblygu economaidd yng nghwm Afan?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gylch gorchwyl ymchwiliad y cynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru ar god y gweinidogion?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli plismona i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benodi cynghorwyr Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013?