Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/10/2025 i'w hateb ar 05/11/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

1
OQ63335 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Pa waith sydd wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (MTAN) Cymru 1: Agregau yn parhau yn addas i bwrpas?

 
2
OQ63345 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector lletygarwch annibynnol yn Nelyn?

 
3
OQ63330 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant gemau cyfrifiadurol?

 
4
OQ63339 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dyfu'r economi yng ngogledd Cymru?

 
5
OQ63328 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar rôl Sir Fynwy yng nghynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru?

 
6
OQ63343 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cynnal gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ynghylch argymhellion Adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gynllunio gwlad a thref a gyhoeddwyd yn Chwefror 2025?

 
7
OQ63352 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r heriau sy'n wynebu'r sector twristiaeth ym Mhowys?

 
8
OQ63351 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran datblygu cynllun datblygu economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd?

 
9
OQ63337 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yng Ngogledd Cymru i uwchsgilio eu gweithlu ar gyfer y dyfodol?

 
10
OQ63348 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad economaidd yng Nghasnewydd a rhanbarth de-ddwyrain Cymru??

 
11
OQ63331 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at ddiwylliant ym Mhontypridd?

 
12
OQ63338 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r system gynllunio i annog mwy i fabwysiadu technolegau gwyrdd?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1
OQ63353 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar amseroedd aros ar gyfer ambiwlans ar draws Cymru?

 
2
OQ63342 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y cynllun i sefydlu canolfan iechyd newydd yn Waunfawr yn Arfon?

 
3
OQ63327 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella proses gwyno y GIG i breswylwyr yn Nwyrain De Cymru?

 
4
OQ63354 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol i ehangu fferyllfeydd ar y safle mewn ysbytai?

 
5
OQ63323 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau iechyd yng Ngorllewin Cymru?

 
6
OQ63322 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at ofal iechyd sylfaenol?

 
7
OQ63341 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o a yw lefelau staffio nyrsys arbenigol yn ddigonol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

 
8
OQ63347 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff y GIG i leihau amseroedd aros i gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?

 
9
OQ63329 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno neu gefnogi rhaglenni sgrinio antigenau penodol i'r prostad ar gyfer dynion sydd â risg uwch o ganser y prostad?

 
10
OQ63346 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barcio am ddim mewn ysbytai ledled gogledd Cymru?

 
11
OQ63326 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros yn y GIG?

 
12
OQ63340 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025

Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gofal lliniarol yn cael ei ddarparu i bawb sydd ei angen?