Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/10/2024 i'w hateb ar 05/11/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ61785 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd rhaglen adferol y Llywodraeth ar gyfer RAAC, gan gynnwys llinellau amser, statws presennol ymdrechion adfer, ac unrhyw gyllid ychwanegol a ddyrannwyd i sicrhau diogelwch yr adeiladau yr effeithir arnynt?

 
2
OQ61810 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith cyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU ar y trydydd sector yng Nghymru?

 
3
OQ61787 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU ar wella canlyniadau economaidd i drigolion Dwyrain De Cymru?

 
4
OQ61775 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr?

 
5
OQ61801 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng natur?

 
6
OQ61802 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?

 
7
OQ61794 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ba drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch anghyfiawnder pensiynau Allied Steel and Wire?

 
8
OQ61813 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae amharu ar gadwyn gyflenwi meddyginiaeth ADHD yn ei chael ar gleifion?

 
9
OQ61817 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ariannu tai cymdeithasol yng Nghymru?

 
10
OQ61808 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb Canghellor y DU ar bobl yn Nyffryn Clwyd?

 
11
OQ61783 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU ar Gymru?

 
12
OQ61816 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gynlluniau’r Llywodraeth i insiwleiddio tai?

Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

1
OQ61791 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2024

Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu blaenoriaethu'r gwaith o gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru?

 
2
OQ61784 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2024

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru?

 
3
OQ61790 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2024

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am bolisi'r Llywodraeth ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol?

 
4
OQ61779 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2024

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru?

 
5
OQ61793 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2024

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill y DU ynghylch goblygiadau Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 i Gymru?

 
6
OQ61792 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2024

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi'i chael ar ddeddfwriaeth Cymru?

 
7
OQ61795 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2024

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru?

 
8
OQ61796 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2024

Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r effaith ar wasanaethau datganoledig os yw Senedd y DU yn deddfu i ganiatáu cymorth i farw?