Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/09/2021 i'w hateb ar 05/10/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi busnesau yn nhymor presennol y Senedd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau iechyd sylfaenol yng Ngogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd meddwl pobl sydd yn dioddef trawma yn sgil yr argyfwng hinsawdd a natur?
Sut bydd Llywodraeth Cymru yn gwella'r amgylchedd dysgu mewn ysgolion ledled Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymuned y lluoedd arfog?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl i gael brechlyn y coronafeirws?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i gefnogi gwasanaethau gofal plant a chwarae?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch tlodi tanwydd yng Ngorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i ddileu tlodi bwyd?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fynediad i gyfleusterau chwaraeon yng Ngogledd Cymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i wella trafnidiaeth gyhoeddus?