Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/06/2023 i'w hateb ar 05/07/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd

1
OQ59771 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi bioamrywiaeth yng Nghymru?

 
2
OQ59773 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella cysylltedd rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru?

 
3
OQ59806 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru?

 
4
OQ59789 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
5
OQ59778 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ymgyrch sydd â'r nod o gynyddu nifer y bobl sy'n teithio ar fysiau, yn dilyn cyhoeddi'r gronfa bontio ar gyfer bysiau?

 
6
OQ59795 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd a phartneriaid eraill ynglŷn ag ehangu mannau gwyrdd cymunedol yng Nghaerdydd?

 
7
OQ59803 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion gwledig yn Arfon sydd yn ceisio annog mwy o deithio llesol i’r ysgol?

 
8
OQ59799 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n parhau ym mhwll glo brig Ffos-y-frân?

 
9
OQ59788 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r buddion i genedlaethau'r dyfodol a fydd yn deillio o gronfeydd pensiwn sector cyhoeddus Cymru yn dadfuddsoddi o danwydd ffosil?

 
10
OQ59798 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i alluogi datgarboneiddio seilwaith Cymru?

 
11
OQ59797 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch datgarboneiddio eu fflydoedd cerbydau?

 
12
OQ59782 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bobl ag anableddau dysgu fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus?

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

1
OQ59777 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch darparu cyfleusterau cegin a bwyta digonol ar gyfer ysgolion yn Sir Ddinbych?

 
2
OQ59793 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at darged Cymraeg 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg?

 
3
OQ59796 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda'r sector addysg uwch ynglŷn â rôl prifysgolion yn strategaeth Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd eleni, 'Cymru’n arloesi: creu Cymru gryfach, decach, a gwyrddach'?

 
4
OQ59805 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned yng Nghymru?

 
5
OQ59787 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog dysgwyr i barhau i astudio'r gwyddorau tan eu bod yn 18 oed?

 
6
OQ59783 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghanol De Cymru yn derbyn yr addysg a'r gefnogaeth y maent eu hangen?

 
7
OQ59779 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch darparu cludiant ysgol yn unol â'r Mesur Teithio i Ddysgwyr yn dilyn y cyhoeddiad am y gronfa bontio ar gyfer bysiau?

 
8
OQ59784 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynigion gan Gymwysterau Cymru ar gyfer TGAU gwyddoniaeth gradd unigol?

 
9
OQ59790 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella llythrennedd ariannol mewn ysgolion yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
10
OQ59791 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am newidiadau i TGAU gwyddoniaeth yng Nghymru?

 
11
OQ59774 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal gwahaniaethu yn erbyn disgyblion awtistig mewn lleoliadau addysg?

 
12
OQ59786 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch yr effaith y mae rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru yn ei chael ar fynediad plant at addysg?