Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/06/2022 i'w hateb ar 05/07/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at wasanaethau deintyddol yng Ngorllewin De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn Nyffryn Clwyd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cynyddu nifer y disgyblion sy'n teithio i'r ysgol ar feic, ar sgwter neu drwy gerdded?
Pa ganlyniadau y mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio eu cyflawni o'r cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Ngogledd Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i blant ag anghenion dysgu ychwanegol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen caffael seilwaith gwastraff Llywodraeth Cymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith trafnidiaeth ym Mhreseli Sir Benfro?
Gyda phwy yr ymgynghorodd Llywodraeth Cymru wrth wneud asesiadau diogelu o ran menywod yn y broses o ddrafftio'r cynllun gweithredu LHDTC+ arfaethedig?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt metro'r gogledd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y posibilrwydd o ehangu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a Gweinidogion eraill am gynlluniau i wella canol dinas Bangor?