Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/05/2024 i'w hateb ar 05/06/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ofynion ar gwmnïau parcio preifat ynghylch defnydd o’r Gymraeg?
Pa fwriad sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i ehangu safonau'r iaith Gymraeg i sectorau eraill?
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi busnesau canol trefi Gorllewin De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ystadegau diweddaraf y farchnad lafur ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fis Mai?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil addysg Gymraeg?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddatblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gydag undebau llafur a Tata Steel ynghylch dyfodol diwydiant dur Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar economi Cymru yn sgil y posibilrwydd o gael gwared ar bobl ifanc 18 oed o'r gweithlu i ymgymryd â gwasanaeth milwrol gorfodol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp annibynnol sy'n asesu costau cymharol llinellau trawsyrru 132 cilofolt o dan y ddaear ac uwchben?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i hybu'r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau i leihau eu defnydd ynni?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ynglŷn ag effaith trafnidiaeth gyhoeddus ar yr economi?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro safon gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd y cyhoedd ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan y GIG ddigon o staff i fodloni gofynion gwasanaethau?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y cleifion sydd ar restrau aros yng Nghanol De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau cadw staff yn y GIG yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am strategaethau ymateb i alwadau yn Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r GIG yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ynghylch y tariff cyffuriau yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau fferylliaeth yng Ngogledd Caerdydd?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ynghylch cynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisi iechyd o fewn y gwasanaethau tân ac achub?