Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/02/2025 i'w hateb ar 05/03/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei holl benderfyniadau gwario yn cynrychioli gwerth am arian?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith cynnydd yswiriant gwladol ar sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Sut y mae prosiectau buddsoddi i arbed wedi cael eu hefelychu gan sefydliadau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am Fil Oedolion sydd â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) San Steffan i sicrhau bod gofyniad i gofnodi a yw claf yn siarad Cymraeg ac, os felly, i gynnal yr asesiadau angenrheidiol yn Gymraeg?
Sut y bydd cyllideb derfynol 2025-26 Llywodraeth Cymru yn cyflawni ar gyfer Delyn?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymgynghoriad cydgrynhoi'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a ddaeth i ben ym mis Ionawr?
Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu cyllid i gefnogi'r sector cerddoriaeth wrth benderfynu ar gyllideb ddrafft 2025-26?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu cartrefi yng Nghymru rhag cynnydd yn y dreth gyngor?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru am yr angen i ddyrannu cyllid ychwanegol ar gyfer ffyrdd a phalmentydd a gynhelir yn lleol?
Pa asesiadau effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo dosbarthiad teg o gyllid ar gyfer Gogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru?
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Beth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i gefnogi'r sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am barodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau tywydd garw?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i frwydro yn erbyn segura mewn ardaloedd sydd eisoes yn dioddef ansawdd aer gwael?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddynodi parc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi cymunedau ffermio yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro ansawdd aer ym Mhreseli Sir Benfro?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau llygredd amaethyddol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr yn Nwyrain De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch trigolion Gorllewin De Cymru sy'n byw ger cyn-weithfeydd glo brig?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ailgyflwyno'r afanc Ewropeaidd i Gymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o lefelau llygredd afonydd?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, a chynghorau Caerdydd a Chasnewydd ynghylch penderfyniadau cynllunio ecolegol gyfrifol ar gyfer prosiectau ar Wastadeddau Gwent?