Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/02/2019 i'w hateb ar 05/03/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pryd, ar ôl 1 Mawrth 2018, y diddymwyd y penderfyniad i gadw gwasanaethau fascwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y canlyniadau i Gymru pe bai Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl o fuddsoddiad arfaethedig yn seilwaith Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwerthuso gwaith tasglu'r cymoedd yng Nghaerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau ieuenctid?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid addysgol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei ystyriaeth o'r angen am bleidlais y bobl ar y cytundeb i ymadael â'r UE?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynlluniau datblygu lleol yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi twristiaeth yn Aberafan?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o losgi fel rhan o reoli gwastraff?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr adolygiad o wariant sydd ar y gweill?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu busnesau bach?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes yn y sector gwyliau?
Cwnsler Cyffredinol
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y farnwriaeth yn llwyr ymwybodol o'r gwahaniaethau cynyddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am hygyrchedd deddfwriaeth ddatganoledig i'r cyhoedd?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau gwrandawiad teg a chyfiawn mewn ymchwiliadau cynllunio?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r graddau y mae cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth?