Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/01/2025 i'w hateb ar 05/02/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynnydd Metro Gogledd Cymru, a sut y mae'r prosiect yn cyd-fynd â nodau trafnidiaeth a datblygu economaidd ehangach ar gyfer y rhanbarth?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru ynghylch digonolrwydd gwasanaethau bysiau?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynnydd tuag at wella rheilffordd Wrecsam i Bidston?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo teithio llesol yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amserlen newydd lein y Cambrian ar drigolion lleol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am brosiectau cynnal a chadw ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adfer rheilffordd Dyffryn Aman fel llinell i deithwyr?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yngŷn â chyflwr presennol darpariaeth ddeintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar derfynau cyflymder trefol yn Sir Ddinbych?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cludiant hygyrch i bawb?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch buddsoddi mewn rheilffyrdd yn Nwyrain Casnewydd?
Pa gamau y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd mewn ymateb i adroddiad y crwner i farwolaeth Donald Mitchell ar yr A48?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar effeithiolrwydd y prosiect Sbectrwm wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl yn Nelyn yn hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector gwirfoddol ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi yn Nwyrain De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o gamerâu CCTV er mwyn gwella diogelwch cymunedol yn ardaloedd gwledig Ynys Môn?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar safleoedd sipsiwn a theithwyr?
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Gyfiawnder ynghylch cyflwyno carchar i fenywod yng Nghymru?
Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith perchnogion cartrefi mewn parciau?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sefydlu canolfan breswyl i fenywod yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant?
Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cefnogi gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru?
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau bod polisi bathodyn glas Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol?
Comisiwn y Senedd
Pa ystyriaeth y mae Comisiwn y Senedd wedi'i rhoi i fod yn llofnodwr Cyfamod y Lluoedd Arfog?