Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/01/2020 i'w hateb ar 05/02/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwm Rhondda yn 2020?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cefnogi ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn Sir y Fflint?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol a roddir i gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i roi i ariannu'r grant cymorth tai wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gaffael arloesol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyflwyno treth ar dir gwag i Gymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwerth am arian defnyddio staff locwm yn y GIG yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?
Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru ar y gyllideb yn cyd-fynd â'i blaenoriaethau strategol?
Pa strategaethau sydd gan y Gweinidog ar gyfer diogelu caffael cyhoeddus yng ngoleuni'r ansicrwydd ynghylch y trafodaethau masnach gyda'r UE?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran datblygu polisi treth sy'n addas ar gyfer y dyfodol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch sefyllfa ariannol y byrddau iechyd?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o ran cefnogi'r broses o gyflwyno cyfleusterau diogel i sefyll mewn stadia pêl-droed?
Pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cynllun heddwch ar gyfer gwladwriaeth Palesteina ac Israel a argymhellwyd yn ddiweddar gan Unol Daleithiau America?
Sut y bydd strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru o fudd i bobl Blaenau Gwent?
Pa gysylltiad sydd gan y Gweinidog â gwledydd tramor sydd â dinasyddion a phobl yn byw yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Alun a Glannau Dyfrdwy i'r byd?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio digwyddiadau mawr i hyrwyddo twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach ryngwladol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chynrychiolwyr o'r UE ynghylch strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i henebion cofrestredig sydd o bwysigrwydd cenedlaethol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru?
Comisiwn y Cynulliad
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sydd newydd gymhwyso i bleidleisio dros eu hawl i wneud hynny yn etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2021?
Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i oblygiadau ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011 ar gyfer etholiadau'r Cynulliad?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ymdrechion i hyrwyddo etholiad nesaf y Cynulliad?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei bolisi cofebion mewn perthynas â'r rhai fu farw, yn druenus, wrth wasanaethu fel Aelodau Cynulliad?
A wnaiff y Comisiwn amlinellu ymdrechion i leihau gwastraff bwyd ar ystâd y Cynulliad?