Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/11/2024 i'w hateb ar 04/12/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

1
OQ61982 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi tenantiaid yn y sector rhentu preifat?

 
2
OQ61960 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am adeiladu tai cydweithredol yn Abertawe?

 
3
OQ61994 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru rhag toriadau ariannol?

 
4
OQ61981 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarparu cyllid y Llywodraeth ar gyfer cymdeithasau tai?

 
5
OQ61963 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol awdurdodau lleol?

 
6
OQ61996 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod briciau gwenoliaid yn cael eu gosod ar bob adeilad tal?

 
7
OQ61964 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Beth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i leihau nifer y cartrefi gwag yn Aberconwy?

 
8
OQ61990 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni gwasanaethau?

 
9
OQ61993 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o wytnwch ariannol awdurdodau lleol?

 
10
OQ61998 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Beth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i annog awdurdodau lleol i gymryd rhan weithredol yn y cynllun cyflogwr hyderus o ran anabledd?

 
11
OQ62001 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn Cyngor Sir Powys rhag toriadau ariannol?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OQ61962 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector addysg bellach i gynyddu'r set sgiliau yng Nghymru?

 
2
OQ61967 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Pa newidiadau i addysg dinasyddiaeth a gwleidyddol sydd wedi'u gwneud ers cyflwyno pleidleisiau i bobl 16 oed?

 
3
OQ61984 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu teuluoedd gyda chostau ysgol?

 
4
OQ61999 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol?

 
5
OQ61980 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael a'r cwymp mewn nifer y dysgwyr sy'n astudio iaith fodern mewn ysgolion?

 
6
OQ61978 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r sector addysg uwch yng Nghymru?

 
7
OQ61968 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ysgolion Pontypridd fel rhan o'r rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif?

 
8
OQ61987 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Ydy'r Llywodraeth yn cefnogi'r nod o barhad addysg bellach yn Rhydaman?

 
9
OQ61995 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarparu staff cymorth ystafelloedd dosbarth yn rhanbarth Gogledd Cymru?

 
10
OQ61989 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella safonau addysg yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
11
OQ61959 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am addysgu mentrusrwydd mewn ysgolion?

 
12
OQ61991 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024

Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid ar gyfer ysgolion yng Ngogledd Cymru?