Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/11/2018 i'w hateb ar 04/12/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am welliannau i wasanaethau cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y gall tai gwarchod ei chwarae yn y dyfodol o ran darparu tai o ansawdd uchel i bobl hŷn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio canol tref Pontypridd?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lwyddiannau'r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru ers 2009?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd y Comisiwn Gwaith Teg yn cyfrannu at gyfleoedd cyflogaeth gwell yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi datblygu economaidd yng Nghonwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y GIG yng Nghymru yn ystod ei gyfnod yn ei swydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog esbonio pam nad oes cyllid wedi'i ddyrannu hyd yma i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd o fynd i'r afael â'r tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu lles ac iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ar feddygon teulu yng Nghymru'r gaeaf hwn?