Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/10/2025 i'w hateb ar 04/11/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ63361 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y broses ar gyfer cau ysgolion gwledig?

 
2
OQ63332 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith cyllideb yr hydref sydd ar ddod ar Ddwyrain De Cymru?

 
3
OQ63350 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gweithredu adroddiad y Comisiwn ar Ddyfodol y DU yn amserol?

 
4
OQ63357 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n gadael Cymru i fynychu prifysgolion yn Lloegr?

 
5
OQ63360 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at gyfleoedd hyfforddi o ansawdd uchel ym Mlaenau Gwent?

 
6
OQ63319 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y cynllun gweithredu dementia nesaf?

 
7
OQ63324 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella'r economi yng ngorllewin Cymru?

 
8
OQ63356 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau ei bod yn ofynnol i ddatblygwyr prosiectau ynni ar raddfa fawr gyfathrebu'n barhaus ac mewn modd ystyrlon â chymunedau lleol drwy gydol pob cam o'u datblygiadau?

 
9
OQ63355 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fentrau i helpu pobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i ddatblygu'r sgiliau i ddechrau swyddi ynni glân?

 
10
OQ63334 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar amseroedd aros dwy flynedd yn y GIG?

 
11
OQ63358 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector lletygarwch i sicrhau eu bod yn wydn yn wyneb heriau economaidd?

 
12
OQ63359 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

Pa gamau mae’r Llywodraeth yn bwriadu cymryd i wrthsefyll dadwybodeth yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf?