Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/10/2020 i'w hateb ar 04/11/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OQ55772 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau a thriniaethau cleifion allanol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?

 
2
OQ55779 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn sir Benfro?

 
3
OQ55789 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda swyddogion, gan gynnwys y rhai yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghylch y cynnydd tuag at frechlyn ar gyfer COVID-19?

 
4
OQ55796 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y bobl â COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru?

 
5
OQ55781 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yng Nghanol De Cymru yn dilyn y pandemig COVID-19?

 
6
OQ55806 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Pa gynllunio y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflwyno rhaglen frechu COVID-19 ar draws Islwyn?

 
7
OQ55791 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dryloywder o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
8
OQ55801 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru sy'n dioddef effeithiau COVID hir?

 
9
OQ55794 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi yn ystad y GIG ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
10
OQ55778 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gapasiti gofal critigol yn GIG Cymru?

 
11
OQ55795 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau symud COVID-19 yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
12
OQ55807 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i weithwyr gofal iechyd yng Nghymru?

Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

1
OQ55783 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith pandemig COVID-19 ar dwristiaeth i Gymru?

 
2
OQ55773 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y cyfyngiadau symud cenedlaethol ar iechyd meddwl a llesiant pobl yng nghanolbarth Cymru?

 
3
OQ55804 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd meddwl ar gyfer gweddill tymor presennol y Senedd?

 
4
OQ55802 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i bobl yng Nghymru y mae'r cyfyngiadau symud yn effeithio ar eu hiechyd meddwl?

 
5
OQ55787 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd meddwl yn y Gogledd?

 
6
OQ55780 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barhad gofal i bobl ifanc sy'n symud o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i wasanaethau iechyd meddwl oedolion?

 
7
OQ55785 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ganfod a chefnogi'r rhai sydd fwyaf agored i unigrwydd ac unigedd yn ystod misoedd y gaeaf o ystyried y cyfyngiadau COVID-19 presennol?

 
8
OQ55777 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddiogelu iechyd meddwl pobl yn sir Benfro yn ystod pandemig COVID-19?

 
9
OQ55798 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru?

 
10
OQ55792 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru?

 
11
OQ55805 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

Pa asesiad sydd wedi'i wneud o bwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19?

 
12
OQ55793 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella mynediad at wasanaethau gofal argyfwng ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?