Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/09/2023 i'w hateb ar 04/10/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i faint y grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru ar gyfer 2024-25?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith caffael blaengar sy'n digwydd ar draws byrddau gwasanaethau cyhoeddus Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag arweinwyr cynghorau ynghylch toriadau posibl i wasanaethau rheng flaen yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn wynebu diffyg yn y gyllideb o £900 miliwn mewn termau real?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn agored ac yn dryloyw gyda phreswylwyr?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i gyflawni eu dyletswyddau statudol mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion lleol?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i’r effaith ar blant yn sgil unrhyw ddiwygiadau i ddyraniadau’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu cwmpas pwerau benthyca Llywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gynnal adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido llywodraeth leol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phwysau ar y gyllideb?
Sut mae fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ardaloedd llai gwydn yng Nghymru, fel y nodir mewn ymchwil ddiweddar gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau?
Sut mae polisïau trethiant Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o gyfarfodydd rhithiol gan lywodraeth leol yn Arfon?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar yr effaith ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru o ganlyniad i roi diwedd ar gyllid y rhaglen datblygu gwledig?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu i wella lles anifeiliaid domestig?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cynyddu faint o lysiau a ffrwythau a dyfwyd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr ym Mhreseli Sir Benfro?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sector bwyd a diod Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gynllun Cynefin Cymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cael cyfran deg o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch diweddaru Deddf Cŵn Peryglus 1991?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddiogelu'r cyhoedd rhag ymosodiadau gan gŵn?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael efo’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am gynlluniau datblygu’r gweithlu iechyd yn Arfon?
Pa ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i gefnogi'r sector bwyd a diod yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddileu dolur rhydd feirysol buchol yng Nghymru?