Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/09/2022 i'w hateb ar 04/10/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ58468 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i hyrwyddo e-sigarennau i annog ysmygwyr presennol i roi'r gorau i ysmygu?

 
2
OQ58496 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn ei chael ar bobl ym Mlaenau Gwent?

 
3
OQ58509 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn gwneud i sicrhau cymorth digonol i aelwydydd gwledig ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru wrth iddynt wynebu heriau’r argyfwng costau byw?

 
4
OQ58500 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud tuag at gyrraedd ei tharged ar gyfer adeiladu cartrefi newydd yng Ngorllewin De Cymru?

 
5
OQ58502 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o allu awdurdodau iechyd Cymru i reoli rotas staff yn effeithiol?

 
6
OQ58501 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi darpariaeth gofal plant yng Nghwm Cynon?

 
7
OQ58483 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol?

 
8
OQ58490 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gau'r bwlch rhwng y rhywiau ymhlith myfyrwyr addysg uwch?

 
9
OQ58506 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad oes neb yn Nwyfor Meirionnydd yn wynebu digartrefedd y gaeaf hwn?

 
10
OQ58507 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros orthopaedig?

 
11
OQ58503 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Beth yw dadansoddiad y Prif Weinidog o'r effaith y bydd cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar dreth yn eu cael ar gyllideb Llywodraeth Cymru?

 
12
OQ58504 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2022

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad 2022 Niferoedd Nyrsio y Coleg Nyrsio Brenhinol mewn perthynas â Gogledd Cymru?