Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/06/2023 i'w hateb ar 04/07/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella economi Gorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau yn y diwydiant ynni adnewyddadwy?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Llywodraeth a phartneriaid eraill ynghylch gorddefnyddio meddyginiaeth bresgripsiwn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesedd ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am greu'r canllawiau trawsrywedd newydd ar gyfer ysgolion?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru o ran lliniaru llifogydd ym Mhentre yn dilyn storm Dennis?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd ym Mlaenau Gwent?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod y GIG yn Nwyrain De Cymru yn addas i'r dyfodol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu digwyddiadau mawr i Gymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth digwyddiadau diwylliannol rhyngwladol i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio taliadau rheoli eiddo ac ystadau y mae trigolion ystadau tai preifat yn eu talu?
Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella mynediad at ofal sylfaenol yng Ngorllewin De Cymru?