Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/05/2025 i'w hateb ar 04/06/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu diweddariad ar gyflawni'r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Comisiwn Burns?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r system drafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu diweddariad ar newidiadau i'r terfyn cyflymder diofyn yng Ngogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau trên ar y llinell rhwng Aberystwyth ac Amwythig i fodloni anghenion y cynnydd yn nifer y teithwyr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau oedi traffig ffyrdd ar y prif gefnffyrdd yng ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a phartneriaid eraill ynghylch effaith segura llonydd diogelwch ar y ffyrdd a thagfeydd traffig?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Trafnidiaeth Cymru ynghylch cyswllt trên coridor gogledd-orllewin Caerdydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyfyngiadau pwysau ar bont Hafren yr M48 a gwaith ffordd ar Bont Tywysog Cymru ar fusnesau lleol a'r seilwaith ffyrdd?
Sut y mae'r Llywodraeth yn gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc yn Nwyrain De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau trên yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfarniadau cyflogau'r sector cyhoeddus?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu crymryd i hybu'r defnydd o'r Gymraeg gan blant ysgol y tu hwnt i'r dosbarth?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi gwariant yn ei chyllidebau nad yw'n darparu gwerth am arian?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith toriadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-daliadau anabledd ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru?
Sut y bydd polisi trethi Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau manwerthu, yn enwedig busnesau'r stryd fawr, yn y flwyddyn ariannol 2025-26?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth i ddiogelu’r iaith Gymraeg yn y sector amaethyddol?
Sut y mae'r Llywodraeth yn annog twf y Gymraeg yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ardrethi annomestig ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig eu maint?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynghylch goblygiadau'r ardoll ymwelwyr ar gyfer digwyddiadau mawr?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei chyllideb yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Diwydiant Cymru ynghylch ei gyfrifon ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru ddatgan nad yw'n gallu darparu barn amdanynt?
Comisiwn y Senedd
Pa newidiadau sydd wedi'u gwneud i ystad y Senedd yn dilyn dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys ar y diffiniad o fenyw?
Sut y mae Comisiwn y Senedd yn sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr wrth reoli ystad a gweithrediadau'r Senedd?
A wnaiff Comisiwn y Senedd ddarparu diweddariad ar ei waith i addasu'r Siambr ar gyfer 96 o aelodau?