Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/05/2024 i'w hateb ar 04/06/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu datblygiad economaidd yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghaerffili?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i atal llifogydd yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu economi Gogledd Cymru?
Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn lles milgwn rasio, ar y trac rasio yn ogystal ag oddi arno?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran mynediad at wasanaethau'r GIG yng Ngogledd Cymru?
Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i leihau'r angen i anfon cleifion yn allanol i glinigau preifat ar gyfer sganiau MRI ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau ysbyty yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau lefelau tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru?
Pa ganllawiau newydd ynghylch cydberthynas a rhywioldeb y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i ysgolion yn dilyn adolygiad Cass?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y plant sydd ar restrau aros y GIG yng Nghymru?