Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/05/2019 i'w hateb ar 04/06/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo busnesau yn Islwyn i baratoi at y dyfodol?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r cabinet yn dilyn y datganiad am yr argyfwng newid hinsawdd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer seilwaith rheilffordd yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r arolwg seismig arfaethedig o Fae Ceredigion?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu tai fforddiadwy ar ystadau preswyl newydd sy'n cael eu hadeiladu?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei gefnogaeth i bleidlais y bobl ar Brexit?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cynni economaidd ar economi Cymru?
Yng ngoleuni datganiad Llywodraeth Cymru am argyfwng hinsawdd, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer maes awyr Caerdydd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru?
Pa effaith a gaiff yr argyfwng hinsawdd a gyhoeddwyd ar gynlluniau i ehangu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus er budd Canol Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu polisi amaethyddol ar gyfer Gogledd Cymru?