Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/04/2022 i'w hateb ar 04/05/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol mewn cymunedau gwledig?
Pa fentrau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu ffoaduriaid o Wcráin ac Afghanistan i integreiddio â chymunedau Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau hawliau cyfartal i blant ag anableddau?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Cymru'n cyflawni ei dyletswyddau i'r rheini sy'n ffoi rhag ymosodiad Rwsia ar Wcráin?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl sefydliadau'r trydydd sector o ran sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith chwyddiant ar bobl sy'n byw ar incwm isel?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hybu ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei pholisi Rwanda ar gyfer ceiswyr lloches?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio ei statws uwch noddwr i helpu pobl o Wcráin i geisio diogelwch yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus eraill ynghylch rôl swyddogion prawf o ran sicrhau diogelwch cymunedol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb i blant anabl?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas â thribiwnlys rhyngwladol i erlyn troseddau rhyfel Vladimir Putin yn Wcráin?
Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i gyflwyno prentisiaeth cyfreithiwr lefel 7, fel sy'n bodoli yn Lloegr, i helpu i ehangu mynediad economaidd-gymdeithasol i'r proffesiwn cyfreithiol?
Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU am y frwydr barhaus dros gyfiawnder i deuluoedd Hillsborough?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru yng ngoleuni cynllun Llywodraeth y DU i brosesu ceisiadau am loches o'r glannau hyn yn Rwanda?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch datblygu polisi etholiadau sy'n mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd mewn rhai wardiau yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws apêl Llywodraeth Cymru i Oruchaf Lys y DU ar ei her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am rôl y Comisiwn Cyfansoddiadol yn y broses o ystyried maint y Senedd a'r system bleidleisio a ddefnyddir i ethol Aelodau o'r Senedd?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â chanolfan gyfiawnder newydd i Gaerdydd?
Comisiwn y Senedd
Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i ganfod a yw unrhyw rai o'i gontractwyr yn defnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi?
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i leihau'r defnydd o ynni yn adeiladau ystâd y Senedd?
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Senedd yn lle sy'n ystyriol o feigryn?