Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/02/2026 i'w hateb ar 04/03/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fentrau gefeillio awdurdodau lleol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio canol trefi yn Wrecsam?
Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael i bobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynglŷn â'r goblygiadau i gynllunio gweithlu llywodraeth leol yn sgil rhaniad cyfalaf-refeniw y gronfa twf lleol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella fforddiadwyedd tai ar draws Gogledd Cymru?
Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer adfywio canol trefi ar draws Sir Ddinbych?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu tai?
Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu'r ffordd orau o roi gwybod i breswylwyr am ymlyniad plaid ymgeiswyr mewn etholiadau lleol?
Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i drawsnewid canol trefi yn Islwyn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod datblygiadau tai yn cynnwys seilwaith allweddol fel addysg a gwasanaethau iechyd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion ym Mhowys i ôl-osod eu cartrefi?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth addysg uwch ac addysg bellach yn Abertawe?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach yn Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella deilliannau addysgol yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru parthed ysgolion bach?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pob dysgwr ledled Cymru yn gallu mynychu y coleg o'u dewis?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar safonau addysg yn sgil data diweddar gan Estyn am recriwtio a chadw athrawon mewn ysgolion yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth mewn hysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i gryfhau a chynnal arweinyddiaeth mewn ysgolion yn unol â disgwyliadau Estyn?
Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella cyrhaeddiad addysgol?
Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ddatblygu'r ddarpariaeth ar gyfer plant gydag anghenion addysgol arbennig?
Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith gostyngiadau i gymorth yn y dosbarth ar ysgolion yng Nghaerffili?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i wella safonau llythrennedd pobl ifanc?