Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/02/2025 i'w hateb ar 04/03/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62403 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i brifysgolion Cymru?

 
2
OQ62388 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddigideiddio cofnodion meddygol ar draws y GIG?

 
3
OQ62411 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant gwyrdd yn Nelyn?

 
4
OQ62408 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar argaeledd triniaeth ddeintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru?

 
5
OQ62396 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cymunedau ynysig yn ne-ddwyrain Cymru?

 
6
OQ62389 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i gefnogi ffermwyr ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?

 
7
OQ62373 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru?

 
8
OQ62382 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gostyngiad o 12 y cant mewn prisiau tai yng ngogledd-orllewin Cymru yn y flwyddyn i fis Tachwedd 2024?

 
9
OQ62378 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd gwasanaethau llyfrgell mewn cymunedau yn Nwyrain De Cymru?

 
10
OQ62398 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ynni adnewyddadwy sydd o fudd i drigolion lleol yn cael ei ehangu?

 
11
OQ62386 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gymunedol ym Mhreseli Sir Benfro?

 
12
OQ62409 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi elusennau a mudiadau trydydd sector yn Arfon sy’n wynebu trafferthion ariannol yn sgil y cynnydd mewn yswiriant gwladol?