Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/02/2020 i'w hateb ar 04/03/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant bwyd a diod yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal i ystyried y difrod i'r amgylchedd naturiol ar hyd morlin de Cymru o'r mwd y bwriedir ei ddadlwytho o adweithydd niwclear Hinkley Point i mewn i aber afon Hafren?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gynyddu nifer y coed a gaiff eu plannu ledled Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rannu cyfrifoldebau ar gyfer archwilio tomenni glo a'u cadw'n ddiogel?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith amgylcheddol niwsans llwch ar gymunedau?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl y mae'r llifogydd diweddar yng Nghwm Cynon wedi effeithio arnynt?
Pa gefnogaeth a chymorth y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i gymunedau yn Islwyn yn dilyn y difrod llifogydd diweddar?
Beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i warchod pobl Cymru rhag sgil effaith llwch yn dianc i’r atmosffer?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bysgota cregyn bylchog ym Mae Ceredigion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y llifogydd diweddar ar les anifeiliaid yng Nghymru?
Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau y bydd ymagwedd Llywodraeth Cymru at ffermio yn cyfrannu at ddiwydiant ffermio cynaliadwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth a roddir i ffermwyr ar ôl Brexit?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw ad-drefnu llywodraeth leol yn arwain at gostau uwch i drethdalwyr?
Faint o bobl sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol ar draws Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod mwy o dai ar gael i bobl yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi yng ngogledd ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu tai cyngor yng Nghymru?
Sut y mae polisïau hawliau tramwy Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymgyrch Y Cerddwyr 'Don't Lose Your Way''?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cynhwysiant ariannol yng Nghymru?
Faint o anheddau cyngor y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl fydd yn cael eu hadeiladu ym mlwyddyn ariannol 2020/21?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag eiddo gwag yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau posibl i reoli’r farchnad ail gartrefi?