Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/01/2026 i'w hateb ar 04/02/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ariannu ymrwymiadau portffolio'r economi o'r Rhaglen Lywodraethu wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27?
Beth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn cefnogi busnesau yng ngorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar fusnesau yn sgil newidiadau i werthoedd ardrethol?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet ynghylch cynllyn Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi datganiad ar werth am arian gwasanaeth cyfieithu Llywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i effaith ei gofyniad gosod 182 diwrnod ar hyfywedd busnesau hunanarlwyo?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i newid ei pholisi trethiant i gefnogi'r sector lletygarwch?
Pa fanteision y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn eu darparu i bobl yng Ngogledd Cymru?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni argymhellion adroddiad y Comisiwn Cyntaf ar gyfer Cymunedau Cymraeg?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chanlyniadau Barnett i Gymru o ganlyniad i gyllid ar gyfer prosiectau rheilffyrdd yn Lloegr?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 ar gymunedau yng ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ailbrisio ardrethi busnes ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch?
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch diogelu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent yn sgil y ceisiadau parhaus ar gyfer ffermydd solar ar raddfa fawr?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddriad ar weithredu strategaeth bwyd cymunedol Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â mater tir halogedig?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ffermio yng ngorllewin Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar adfer mwyngloddiau brig yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau mynediad microblastigau i ddyfrffyrdd yng ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effeithiau hirdymor ar yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd yn deillio o achosion hanesyddol o ddympio biffenylau polyclorinedig?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan oergelloedd mewn archfarchnadoedd ddrysau arnynt?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith amgylcheddol ar Gymru o weithredu'r prosiectau a nodwyd yng nghylch cyllido AR7 Llywodraeth y DU?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bwyd Cymreig i bobl Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn helpu i gynnal niferoedd da byw yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau yng Nghanol De Cymru sy'n wynebu risg o lifogydd?