Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/01/2025 i'w hateb ar 04/02/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella seilwaith trafnidiaeth ar draws Gorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ai polisi Llywodraeth Cymru o hyd o ran trawsyrru trydan yw bod ceblau 132kv neu lai yn cael eu gosod o dan ddaear lle bo modd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd swyddi medrus mewn sectorau uwch-dechnoleg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau gofal sylfaenol yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ran yr arbedion a allai ddod o weithredu ac ariannu strategaeth atal damweiniau effeithiol i leihau damweiniau yn y cartref a'r gweithle?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gynnydd o ran parth buddsoddi Wrecsam-Sir y Fflint?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu darparwyr gofal plant i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r defnydd o'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc i wella'r modd y caiff gofalwyr ifanc eu hadnabod ledled Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Brexit ar economi Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y gwaith nwy arfaethedig yng Nghaernarfon, gan gynnwys sut y mae’n cyd-fynd ag ymrwymiad y Llywodraeth i dargedau sero net a datblygu ynni cynaliadwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dwf y sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru?