Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/11/2025 i'w hateb ar 03/12/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar economi Dyffryn Clwyd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yn Nwyrain De Cymru?
Sut y mae polisi ynni Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw elw corfforaethol yn rhoi baich gormodol ar filiau ynni teuluoedd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector twristiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag undebau llafur i hyrwyddo gweithleoedd parchus?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar barth twf AI gogledd Cymru?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ddigon o adnoddau i ymdrin â cheisiadau datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn wella mynediad i amgueddfeydd yng Nghaerdydd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach ac annibynnol yn y cyfnod hyd at y Nadolig?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Brifysgol Wrecsam i hyfforddi gweithlu peirianneg y dyfodol?
Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar economi Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn ystyried effaith gronnol ceisiadau am ffermydd gwynt ar y tir a seilwaith cysylltiedig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi gofalwyr yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cytundeb cenedlaethol diweddar i wella cyflogau ac amodau staff y GIG?
Pa effaith y mae'r £120 miliwn a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ym mis Mehefin 2025 wedi'i wneud i drigolion yn y Rhondda sy'n aros am driniaeth?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella mynediad at apwyntiadau meddygon teulu?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at feddygon teulu yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn y gogledd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau iechyd yng nghanolbarth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan ymgynghorwyr mewn perthynas â gweithredu a rheoli Ysbyty Athrofaol Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd a llesiant dynion?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddriad ar yr amser cyfartalog y mae cleifion wedi bod yn aros am driniaeth o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â rhestrau aros offthalmoleg yng Ngogledd Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i leihau amseroedd aros cleifion allanol?