Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/11/2024 i'w hateb ar 03/12/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A yw Llywodraeth Cymru'n agored i sefydlu cronfa effaith weledol, yn debyg i’r cynllun a gyflwynwyd gan Ofgem yn 2014, ond wedi’i ffocysu ar gefnogi’r broses o danddaearu llinellau trydan newydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros triniaethau canser yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ambiwlansys yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yn y system cyfiawnder ieuenctid?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith adfer gwaith diffygiol o dan gynllun Arbed yn Arfon ar ôl cynnal yr arolygon dros yr haf?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganfyddiadau adroddiadau 'False Economy of Big Food' a 'Changing the Conversation' gan y Food, Farming and Countryside Commission?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod targedau ambiwlans galwadau coch yn cael eu cyrraedd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad y bydd bron i 100 o swyddi gyda ffatri gelatin PB Leiner yn Nhrefforest yn cael eu colli oherwydd cau'r safle?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltedd ffyrdd gwledig yn Nyffryn Clwyd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae Storm Bert wedi effeithio arnynt?
Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei thargedau dros y 18 mis nesaf?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei chynlluniau i wella cyflawni o ran Llywodraeth Cymru dros y 18 mis nesaf?
Sut y bydd y Bil tribiwnlysoedd arfaethedig yn sicrhau annibyniaeth swyddogaethau paneli apêl gwahardd ysgolion?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod data cyfiawnder wedi'u dadgyfuno ar gael i Gymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am Bumed Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru?