Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/11/2019 i'w hateb ar 03/12/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54778 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru?

 
2
OAQ54798 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru?

 
3
OAQ54803 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl ag awtistiaeth sy'n astudio mewn addysg uwch yng Nghymru?

 
4
OAQ54805 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i rai sy'n cysgu ar y stryd yn Sir y Fflint?

 
5
OAQ54793 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yn Nwyrain Casnewydd?

 
6
OAQ54811 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yn Nwyrain De Cymru?

 
7
OAQ54809 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019?

 
8
OAQ54807 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch unrhyw drafodaethau masnach rhwng y DU a'r Unol Daleithiau?

 
9
OAQ54799 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ganfyddiadau'r tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu?

 
10
OAQ54781 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gryfhau a datblygu partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru?

 
11
OAQ54784 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Fynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf: adolygiad o'r farchnad agored 2019?

 
12
OAQ54808 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel Europe bod y cwmni yn disgwyl torri 1,000 o swyddi o'u gweithrediadau yn y DU?