Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/10/2026 i'w hateb ar 03/11/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i geisio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynglŷn â'u trefniadau diogelu a chapasiti ymwelwyr iechyd?
Buddiant perthnasol wedi'i ddatgan
Mae fy mhartner yn gweithio o fewn y GIG
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU ar fusnesau bach manwerthu, lletygarwch a hamdden yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cynaliadwyedd economaidd fferyllfeydd cymunedol?
Sut mae'r Prif Weinidog yn hyrwyddo cydweithrediad ac yn meithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gweithredu system fudd-daliadau i Gymru?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ynghylch gwasanaethau cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon cymunedol yng nghefn gwlad Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu addysg bellach ym Mhontypridd Cynon Merthyr?
Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i ganfyddiadau Ymchwiliad COVID-19 y DU ar effaith ymweliadau cyfyngedig ar bobl hŷn mewn cartrefi gofal?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gamau gweithredu sy'n deillio o'r Uwchgynhadledd Tanau Gwyllt ar 22 Hydref 2026?
Pa ystyriaeth mae'r Prif Weinidog wedi'i roi i sicrhau sofraniaeth ddigidol Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r stryd fawr yn Afan Ogwr Rhondda?